Yn ddiweddar, cawsom 2 gysgodwr allan ar gynyrchiadau, yn ennill profiad gwerthfawr a dysgu am agweddau o’r diwydiant cynhyrchu.
Cafodd Kelly Mok wythnos wych gyda Pixie Productions yn Abertawe a chysgododd Annie Holroyd rôl y Goruchwyliwr Sgript ar y cynhyrchiad ‘Shakespeare and Hathaway: Private Investigators’.
Mae’r cyfleoedd hyn yn caniatáu i bobl sy’n edrych i ymuno â’r diwydiant ennill rhywfaint o brofiad a dealltwriaeth o’r gwahanol rolau sydd ar gael a beth mae’r swyddi hynny’n ei olygu.