Gweld Adnoddau

Telerau ac Amodau

Cysylltu â gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop ac ohoni

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i lincio’r wybodaeth sydd wedi’i chynnal ar y tudalennau hyn, ac nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu â gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig â, neu wedi’i chymeradwyo gan Siop Un Stop – One Stop Shop. Lle mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd neu’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a all godi o’ch defnydd ohonynt.

Defnyddio cynnwys Siop Un Stop – One Stop Shop

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n adnabod Siop Un Stop – One Stop Shop yn nodau masnach perchnogol i Siop Un Stop – One Stop Shop a’i bartneriaid a’i gefnogwyr cysylltiedig. Ni chaniateir copïo neu ddefnyddio’r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti arall a geir drwy’r wefan hon heb ganiatad ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint berthnasol. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Siop Un Stop – One Stop Shop at y Tîm. E-bost: [email protected]

Ymwadiad

Darperir gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop a deunydd sy’n ymwneud ag unrhyw wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y mae’, heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn benodol neu’n oblygedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y gwarantau oblygedig o ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, diffyg tor-cyfraith, cydnawsedd, diogelwch, cyflawnrwydd a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu nac yn cynrychioli y bydd y swyddogaethau sydd wedi’u cynnwys yn y deunydd sydd ar gael ar y wefan hon yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu’r gweinydd sy’n ei gwneud ar gael yn rhydd o firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb neu ddibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw achos am unrhyw gost, colled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw gost, colled neu ddifrod o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio, neu golli defnydd, data, neu golli elw, sy’n deillio o neu mewn cysylltiad â defnyddio gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop neu’n ddibynnu ar ei chynnwys. Ni ellir gwarantu bod unrhyw drosglwyddiad data dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch atom. Yn unol â hynny, caiff unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch atom ei throsglwyddo ar eich risg eich hun. Nid yw gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop yn lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr gael unrhyw gyngor proffesiynol priodol sy’n berthnasol i’w hamgylchiadau penodol. Gall y deunydd ar y wefan hon gynnwys barn neu argymhellion trydydd partïon, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Siop Un Stop – One Stop Shop nac yn dangos ei ymrwymiad i gwrs gweithredu penodol. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd sy’n codi mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd trydydd parti o’r fath.

Postiadau Partner

Yn ogystal â’r ymwadiad cyffredinol a nodir uchod, nodwch nad ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau ynghylch cywirdeb na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth, cynnwys na hysbysebion sydd wedi’u cynnwys yn, wedi’u dosbarthu drwy, wedi’u cysylltu â a/neu wedi’u lawrlwytho o’r gwasanaethau, busnesau a gwefannau cysylltiedig sydd wedi’u cynnwys o fewn safle Siop Un Stop – One Stop Shop. Nid ydym yn gwarantu ansawdd unrhyw wasanaethau, cynhyrchion, gwybodaeth na deunyddiau a ddangosir ar y safle neu y gallech eu cyrchu neu eu cael o ganlyniad i neu mewn cysylltiad â rhestr neu unrhyw wybodaeth arall sydd wedi’i chynnwys yn ein safle. Rydych chi’n gyfrifol am gynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir gan unrhyw aelod o’r criw, cwmni cyfleusterau, cyflenwr neu ddarparwr hyfforddiant ar safle Siop Un Stop – One Stop Shop yn diwallu eich anghenion penodol a/neu fod gwasanaeth, aelod o’r criw neu fel arall wedi’i achredu’n addas ac yn dal yswiriannau priodol. Nid ydym yn gyfrifol am gywirdeb, cyfreithlondeb na gwedduster deunydd sydd wedi’i gynnwys mewn gwefannau a nodweddir ar ein safle. Os ydych chi’n ystyried bod unrhyw restrau yn amhriodol, yn anghyfreithlon neu’n sarhaus, cysylltwch â ni. Rydym yn cadw’r hawl, yn ôl ein disgresiwn ein hunain a heb unrhyw rwymedigaeth o gwbl, i ddiwygio neu ddileu unrhyw restr fusnes neu gywiro unrhyw wall neu hepgoriad yn unrhyw ran o’r wefan. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golledion y gallech eu dioddef, gan gynnwys unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli busnes neu elw neu unrhyw golled ariannol arall sy’n deillio o’ch defnydd o’r wefan neu mewn cysylltiad â hi.

Cyfraith lywodraethol

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cam o’r broses gynhyrchu. Rhaid i chi gymryd eich rhagofalon eich hun i sicrhau nad yw’r broses a ddefnyddiwch i gael mynediad i’r wefan hon yn eich amlygu i’r risg o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a allai niweidio’ch system gyfrifiadurol eich hun. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrthfeirws ar bob deunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, aflonyddwch neu ddifrod i’ch data na’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

Amrywiad

Efallai y byddwn yn diwygio’r telerau ac amodau hyn heb rybudd ar unrhyw adeg. Gwiriwch yn rheolaidd. Mae parhau i ddefnyddio gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop ar ôl i newid gael ei wneud yn golygu eich bod yn derbyn y newid.

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn lle mae’r methiant hwnnw oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol. Os ydym yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael i ni o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny’n cael eu hepgor yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall. Os bernir bod unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anghorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn parhau mewn grym llawn serch hynny.

Cysylltu â gwefannau eraill

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i ac o wefannau a sefydliadau eraill. Dylem ei gwneud yn glir mai dim ond i’r wefan Siop Un Stop – One Stop Shop hon y mae’r polisi preifatrwydd hwn (yr un rydych chi’n ei ddarllen) yn berthnasol.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ewch chi i wefan arall o’r un hon, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan honno os ydych chi eisiau gwybod beth mae’n ei wneud â’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i Siop Un Stop – One Stop Shop o wefan arall

Pan ddewch i wefan Siop Un Stop – One Stop Shop o wefan arall, efallai y byddwn yn cael gwybodaeth bersonol amdanoch chi o’r wefan arall. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw sy’n eich cysylltu â gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop os ydych chi eisiau gwybod am hyn.

Cysylltu â gwefan Siop Un Stop – One Stop Shop ac ohoni

Mae Siop Un Stop – One Stop Shop yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i lincio’r wybodaeth sydd wedi’i chynnal ar y tudalennau hyn, ac nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu â hi. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig â, neu wedi’i chymeradwyo gan Siop Un Stop – One Stop Shop. Lle mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd neu’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a all godi o’ch defnydd ohonynt.

Preifatrwydd a Chwcis

Darllenwch ein polisi preifatrwydd.

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cadw at bolisi preifatrwydd cadarn. Rydym yn casglu gwybodaeth yn benodol at y dibenion canlynol:

i’n helpu i wneud i’r wefan weithio’n well i chi
i gysylltu â chi pan ofynnwch i ni wneud hynny
i’n galluogi i roi gwybod i chi am y newidiadau perthnasol i’r diwydiant os ydych wedi cofrestru i dderbyn ein rhybuddion / newyddion
i’n galluogi i ddarparu gwybodaeth leol gywir pan fydd ei hangen arnoch er mwyn deall sut mae pobl yn defnyddio’r wefan, fel y gallwn ei gwella’n gyson

Y wybodaeth a gasglwn

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan bobl sy’n ymweld â’r wefan:

gwybodaeth ddienw am sut mae pobl yn defnyddio’r wefan, eu rhanbarth a pha borwr maen nhw’n ei ddefnyddio
os anfonwch adborth atom drwy e-bost neu’r ffurflenni cyswllt, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges a’ch manylion cyswllt

Defnyddir unrhyw wybodaeth a gasglwn i:

  • wella cynnwys a dyluniad y wefan
  • cysylltu â chi (gyda’ch caniatâd) i ymateb i adborth
  • cysylltu â chi trwy ein rhybuddion/newyddion i anfon gwybodaeth atoch am gymorth posibl i chi, eich busnes, a newyddion cysylltiedig

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill at ddibenion marchnata, ymchwil marchnad na masnachol, ac nid ydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan arall