Cysylltwch â’n mentor i archebu ymgynghoriad un-i-un am gyngor ac arweiniad arbenigol.
Sylwch mai dim ond i drigolion Cymru y mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd.
Gweithredwr Talent a Chynhyrchydd
“Fy angerdd yw dod o hyd i gyfleoedd i’r rhai a allai wynebu rhwystrau a’u cefnogi trwy gydol eu gyrfaoedd cynnar. Os ydych chi newydd ddechrau yn y diwydiant ac angen cyngor, help gyda llywio’r farchnad swyddi neu chwilio am gyfleoedd hyfforddi, mae croeso i chi gysylltu. Does dim cwestiynau gwirion! Neu os ydych chi’n weithiwr llawrydd sefydledig sy’n chwilio am gyngor ar uwchsgilio, newid llwybrau neu hyfforddiant yn y diwydiant, mae’r drws bob amser ar agor.”
Mae’r cynllun mentora hwn ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn.
Os ydych chi o dan 18 oed ac â diddordeb mewn archwilio’r sector creadigol, mae yna lawer o adnoddau ar gael i chi o hyd. Edrychwch ar yr hyn y mae Screen Alliance Wales yn ei gynnig a’r hyn y mae Into Film yn ei ddarparu.
Gallwch hefyd ddod o hyd iddynt ar TikTok ac Instagram (i’r rhai 13+ oed). Chwiliwch am Screen Alliance Wales neu “Get Into Film” i ddarganfod mwy o gynnwys.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â nhw gyda chymorth rhiant, gwarcheidwad, neu oedolyn arall. Cysylltwch â Screen Alliance Wales drwy eu ffurflen gyswllt i ddysgu am ymweliadau â stiwdios, gweithdai creadigol, a mwy. Fel arall, gallwch anfon e-bost at Into Film [email protected] i gael gwybod mwy am eu Cyngor Ymgynghorol Ieuenctid a chyfleoedd cyffrous eraill.