Cysgodi Gwaith ar ‘Young Sherlock’

Fe wnaethon ni siarad â 3 hyfforddai (Kirsty Dunlop, Emma Williams a Libby Macklin-Broad) sydd i gyd mewn addysg bellach ar hyn o bryd ac a gafodd leoliadau cysgodi gwaith ar ‘Young Sherlock’ yn ddiweddar.

Fe wnaethon ni ddysgu am eu profiadau a pham mae’r profiadau gwaith ymarferol hyn mor werthfawr i’r rhai sy’n astudio ar gyfer gyrfa mewn ffilm a theledu mewn prifysgol neu goleg.